Gwely a Brecwast yng Ngwrach Ynys , Harlech Eryri
I rodio gwlad Paradwys, ar wyliau
O'r aelwyd gysurus,
O'r byd draw a'i fraw a'i frys,
Rhowch inni hedd Wrach Ynys
O'r aelwyd gysurus,
O'r byd draw a'i fraw a'i frys,
Rhowch inni hedd Wrach Ynys
Saif Gwrach Ynys ar Forfa Harlech, ddwy filltir i'r gogledd o dref hanesyddol Harlech a'i chastell enwog, mewn ardal hollol wledig. Mae'n ardal ddelfrydol i unrhyw un a diddordeb mewn cerdded, dringo neu fyd natur. Yr ydym yn ymyl y môr ac mae dewis o wahanol draethau euraidd o fewn ychydig filltiroedd.
Mae i'r llofftydd gyfleusterau preifat, teledu lliw, a'r manion eraill i wneud eich arhosiad yn gyfforddus, ac ymdrechwn o hyd i roi croeso cartrefol i'n gwesteion i gyd.
Bydd croeso gwir Gymreig yn eich aros, ar aelwyd Gymraeg mewn ardal sy'n gyfoethog ei hanes a'i diwilliant.